Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 12 Mehefin 2017 |
|
||||
Amser: |
12.10 - 14.30 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2017(6) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Caroline Jones AC Adam Price AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Kevin Tumelty, Pennaeth Diogelwch Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod 15 Mai.
2 Ystyriaethau o ran y gyllideb (Saesneg yn unig)
Trafododd y Comisiynwyr baratoadau’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19.
Trafododd y Comisiynwyr y cyd-destun presennol, sydd wedi gweld lefel y newid yn mynd yn fwy na’r disgwyl, gyda chynnydd yn y pwysau a’r galw ar Gomisiwn y Cynulliad. Cydnabuont fod newidiadau pellach ar y gorwel a bod angen dal y ddysgl yn wastad rhwng cefnogi’r rhain a pharhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’r Aelodau ac i bobl Cymru.
Cadarnhaodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth am gyfeiriad y gwaith a gwnaed cais am wybodaeth ychwanegol i gefnogi eu penderfyniadau yn y dyfodol.
Cytunodd y Comisiynwyr y caiff y gyllideb ddrafft derfynol ei gosod erbyn diwedd mis Medi yn dilyn ystyriaeth bellach.
3 Anghenion ar gyfer y dyfodol
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar waith i ddiwallu anghenion o ran yr adeilad yn y dyfodol a nodwyd y sgyrsiau archwiliadol sy’n cael eu cynnal â thirfeddianwyr. Cytunwyd ar gael rhagor o wybodaeth cyn toriad yr haf.
4 Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad
Yn y cyfarfod blaenorol, wedi ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar enw y Cynulliad, cytunodd y Comisiynwyr y byddent yn dychwelyd at fater rhaglen ddiwygio’r Cynulliad, a’r cynigion deddfwriaethol y gallai’r Comisiwn ddymuno eu dilyn yn ystod y tymor Cynulliad hwn o ganlyniad i bwerau newydd a ddatganolir o dan Ddeddf Gymru 2017.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddent yn trafod cwmpas llawn y rhaglen ddiwygio bosibl a’r cynigion deddfwriaethol y maent yn bwriadu eu cyflwyno ar ôl i adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad ddod i law yn hydref 2017. Gallai’r trafodaethau hyn gwmpasu pecyn ehangach o ran diwygio trefniadau gweithredol megis y rheolau anghymwyso, trefniadau etholiadol a’r system bwyllgora.
Cytunodd y Comisiynwyr i gynnig deddfwriaeth i newid enw’r Cynulliad yn Senedd Cymru/Welsh Parliament cyn diwedd y Cynulliad hwn. Bydd yr Aelodau yn cael eu galw’n Aelodau o Senedd Cymru/Welsh Parliament Members. Wrth arwain y gwaith hwn ar ran y sefydliad, bydd y Comisiwn yn ceisio sicrhau’r consensws gwleidyddol mwyaf ar draws y pleidiau i gyd.
Yn y cyfamser, bydd y Cynulliad yn parhau i gael ei alw yn swyddogol wrth ei enw statudol presennol, sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn osgoi dryswch ac i leihau costau ac anghyfleustra.
Bydd y Comisiwn yn cynllunio’r newid er mwyn sicrhau bod y gost cyn lleied ag y bo modd, gan newid enw’r Cynulliad yn unig a pheidio â chynnal unrhyw ailfrandio cyffredinol na newid y logo.
Cytunodd y Comisiynwyr i gyhoeddi crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad, ynghyd â datganiad ysgrifenedig ffurfiol i’r Cynulliad gan y Llywydd yn egluro’r penderfyniad a wnaed a sut y mae’r Comisiwn yn bwriadu symud ymlaen.
5 Adroddiad y Tasglu Digidol
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad drwy grynodeb byr o rôl a gwaith y Tasglu. Trafodwyd rhai o’r argymhellion a ragwelir yn yr adroddiad sydd i’w gyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn, a chytunwyd i ystyried eu hymateb yn y cyfarfod ar 17 Gorffennaf.
6 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch
Ar gais y Comisiynwyr, darparwyd diweddariad ar ddiogelwch ffisegol a seiber. Nododd y Comisiynwyr fod ymwybyddiaeth o risgiau a phrotocolau diogelwch yn agwedd bwysig ar fod yn ddiogel ac y dylai’r holl Aelodau a’u staff gael eu hannog i fanteisio ar y hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch sydd ar gael.
7 Adroddiad a chyfrifon blynyddol
Cafodd y Comisiynwyr fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2016 hyd at 31 Mawrth 2017.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau i ystyried sylwadau gan Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a chan Gomisiynwyr; ynghyd â phroses prawfddarllen derfynol, fformatio a brandio.
Caiff y fersiwn derfynol ei gosod yn Gymraeg ac yn Saesneg cyn diwedd tymor yr haf, a bydd ar gael ar-lein a thrwy nifer cyfyngedig o gopïau argraffedig.
8 Adroddiad ar brif ddangosyddion perfformiad corfforaethol (Ebrill 16-Mawrth 17)
Trafododd y Comisiynwyr Adroddiad cyntaf y Pumed Cynulliad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol. Roedd yn nodi perfformiad Comisiwn y Cynulliad yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017, yn ôl y nodau strategol a bennwyd.
Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad a chytunwyd y dylid ei gyhoeddi.
9 Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau
Cynhaliwyd ymarfer recriwtio agored i lenwi swydd wag ar y Bwrdd Taliadau. Trafododd y Comisiwn yr argymhelliad a chytunodd ar benodi’r ymgeisydd a ffafrir gan y Panel Dethol.
10 Unrhyw fater arall
Cynhaliwyd ymarfer recriwtio agored i lenwi swydd wag ar y Bwrdd Taliadau. Trafododd y Comisiwn yr argymhelliad a chytunodd ar benodi’r ymgeisydd a ffafrir gan y Panel Dethol.